Rhif y ddeiseb: P-05-1022

Teitl y ddeiseb: Dilyn Llywodraeth yr Alban a dysgu hanes LHDT Cymru ym mhob ysgol yng Nghymru.

Geiriad y ddeiseb: Fel rhywun a dreuliodd ei hieuenctid yng nghysgod Adran 28, mae prinder addysg LHDT+ yn yr ysgolion wedi effeithio ar fy mywyd cyfan. Mae’n annerbyniol i’r genhedlaeth nesaf o bobl LHDT+ dreulio’u hieuenctid hwythau yn yr un modd. Mae gan Gymru hanes LHDT+ cyfoethog ac amrywiol ac rydym yn credu y gellid creu amgylchedd mwy diogel a mwy goddefgar i bawb.

 

 


1.     Cefndir

1.1.         Y cwricwlwm cyfredol

Mae Cwricwlwm Cenedlaethol presennol Cymru yn cynnwys y pynciau craidd a phynciau sylfaen a nodir yn Neddf Addysg 2002. Y pynciau craidd yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3 yw mathemateg, Saesneg, gwyddoniaeth a Chymraeg mewn ysgolion Cymraeg. Mae hanes yn bwnc sylfaen yn y cwricwlwm cenedlaethol.  Mae Rhaglen Astudio Hanes (PDF 155KB) (Ionawr 2008) Llywodraeth Cymru yn nodi’r gofynion presennol ar gyfer hanes yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3.  Y tu hwnt i Gyfnod Allweddol 3, mae CBAC wedi cyhoeddi manylebau ar gyfer hanes ar lefel TGAU a Safon UG/Safon Uwch Cyflwynwyd y rhain i’w haddysgu gyntaf yn 2017 a 2015 yn y drefn honno. 

Mae darparu Addysg Bersonol a Chymdeithasol yn ofyniad statudol yn y cwricwlwm sylfaenol, ond yr ysgol sydd i benderfynu beth yw’r cynnwys.  Mae’r fframwaith anstadudol, sef y Fframwaith addysg bersonol a chymdeithasol ar gyfer dysgwyr 7 i 19 oed yng Nghymru (2008) yn awgrymu dulliau i’w defnyddio, a deilliannau dysgu. Mae hyn yn cynnwys y dylid rhoi cyfle i ddysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 4 ddeall yr amrywiaeth o agweddau, cydberthnasoedd ac ymddygiadau rhywiol sy’n bod mewn cymdeithas.

Rhaid i ysgolion cynradd ddarparu addysg rhyw fel y'i cynhwysir yn y cwricwlwm cenedlaethol yng Nghymru, (er enghraifft yn y gorchymyn pwnc gwyddoniaeth), ond nid yw'n ofynnol i ysgolion cynradd ddarparu addysg rhyw fel rhan o'r cwricwlwm sylfaenol. Mewn ysgolion uwchradd, a lleoliadau addysgol eraill sy'n darparu ar gyfer dysgwyr o oedran ysgol uwchradd, rhaid i'r cwricwlwm sylfaenol gynnwys darpariaeth ar gyfer addysg rhyw ar gyfer pob disgybl cofrestredig.  Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau, sef Addysg rhyw a pherthnasoedd mewn ysgolion yn 2010.

1.1.a.  Y cwricwlwm newydd

Yn amodol ar fod y Senedd yn pasio’r ddeddfwriaeth, cyflwynir y Cwricwlm newydd i Gymru ar gyfer plant 3-16 oed ym mhob ysgol a gynhelir, a phob lleoliad meithrin a ariennir yn gyhoeddus, yn raddol o fis Medi 2022 ymlaen. Cyflwynwyd Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) i'r Senedd ar 6 Gorffennaf 2020. Mae'r Bil yn nodi beth yw pedwar diben y cwricwlwm:

§    Galluogi disgyblion a phlant i ddatblygu yn ddysgwyr galluog ac uchelgeisiol, sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes;

§    Galluogi disgyblion a phlant i ddatblygu yn gyfranwyr mentrus a chreadigol, sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith;

§    Galluogi disgyblion a phlant i ddatblygu yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus i Gymru a’r byd;  

§    Galluogi disgyblion a phlant i ddatblygu yn unigolion iach a hyderus, sy’n barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o’r gymdeithas.

Mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio y bydd y Cwricwlwm newydd i Gymru wedi'i seilio ar ddibenion yn hytrach na chynnwys. Nid yw cynnwys dysgu penodol yn cael ei nodi yn yr un modd ag o dan y cwricwlwm cenedlaethol presennol.

Mae'r Bil yn nodi chwe Maes Dysgu a Phrofiad ar gyfer y cwricwlwm newydd a'r elfennau gorfodol ynddynt. Dyma’r Meysydd Dysgu a Phrofiad: 

§    Y Celfyddydau Mynegiannol  

§    Iechyd a Lles  

§    Y Dyniaethau  

§    Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu  

§    Mathemateg a Rhifedd  

§    Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

Yr elfennau gorfodol o fewn y Meysydd Dysgu a Phrofiad fydd: Saesneg, Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb; Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg a Chymraeg

Caiff hanes ei addysgu ym Meysydd Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau.  Mae Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau hefyd yn cynnwys daearyddiaeth, addysg grefyddol, astudiaethau busnes ac astudiaethau cymdeithasol. Nid yw'r cwricwlwm newydd yn rhagnodol ac nid yw'n cynnwys rhestr o bynciau y mae'n rhaid i bob ysgol eu haddysgu.

Mae'r Bil yn darparu ‘Cod yr Hyn sy'n Bwysig’ i nodi cysyniadau allweddol dysgu a phrofiad ym mhob un o’r Meysydd Dysgu a Phrofiad (gan gynnwys y Dyniaethau) a bydd yn rhaid i gwricwla ysgolion gwmpasu pob un o'r cysyniadau hyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi 'Datganiadau o’r Hyn sy'n Bwysig' yn nogfennaeth y Cwricwlwm i Gymru.  Bwriad hyn yw darparu’r ‘dull cenedlaethol’ a fydd, yn ôl y Gweinidog Addysg, yn sicrhau cysondeb i ddysgwyr.

Cyhoeddwyd y canllawiau statudol dros dro ar Faes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau, ym mis Ionawr 2020.

1.2.         Addysg cydberthynas a rhywioldeb

Yn dilyn adolygiad y Panel Arbenigol, o dan gadeiryddiaeth yr Athro Emma Renold, cyhoeddodd y Gweinidog yn 2018 fod y gofyniad cyfredol i addysgu addysg rhyw mewn ysgolion uwchradd yn cael ei ymestyn i ysgolion cynradd ond y bydd hyn yn 'briodol i'w hoedran' ac o dan y ffocws diwygiedig ar 'Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb'. Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2019 ar ganllawiau drafft i ysgolion ar ddarparu Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb.

Mae'r canllawiau drafft yn nodi:

Mae Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb gynhwysol yn cydnabod pwysigrwydd amrywiaeth a gwahaniaeth ar draws amrediad o hunaniaethau sy'n gysylltiedig â chydberthnasau, rhyw, rhywedd a rhywioldeb a bod yr amrywiaeth honno yn ffynhonnell cryfder ac yn greiddiol i gymdeithas gydlynol, deg a chyfiawn.

2.     Y sefyllfa yn yr Alban

Y Cwricwlwm Rhagoriaeth (CfE) yw'r cwricwlwm cenedlaethol yn yr Alban a gaiff ei ddefnyddio o'r feithrinfa i'r ysgol uwchradd. Cafodd ei roi ar waith yn 2010. Mae'n debyg o ran dyluniad i'r cwricwlwm newydd yng Nghymru yn yr ystyr ei fod wedi’i seilio ar ddibenion yn hytrach na chynnwys. Bwriad y Cwricwlwm Rhagoriaeth yw meithrin pedwar gallu ym mhob person ifanc:

§  dysgwyr llwyddiannus

§  unigolion hyderus

§  dinasyddion cyfrifol

§  cyfranwyr effeithiol

Mae cydberthynas, iechyd rhywiol a bod yn rhiant yn rhan o'r Maes cwricwlwm Iechyd a Lles.

Ar 19 Ebrill 2017, sefydlodd Llywodraeth yr Alban y Gweithgor Addysg Gynhwysol LHDT. Cyhoeddwyd Adroddiad y Grŵp ar 8 Tachwedd 2018. Yn gynwysedig yn argymhellion y Grŵp oedd y dylai Llywodraeth yr Alban ddatblygu canllawiau cenedlaethol sy'n nodi'n glir y disgwyliadau o ran addysg gynhwysol LHDT. Roeddent hefyd yn argymell y dylid diweddaru’r Canllaw Statudol ar ddarparu addysg cydberthynas, iechyd rhywiol a bod yn rhiant mewn ysgolion a gyhoeddwyd yn 2014, er mwyn defnyddio dull seiliedig ar 'ganlyniadau thematig'. Bydd y canlyniadau'n ymdrin â themâu amrywiol sy'n ymwneud â chydraddoldeb a chynhwysiant LHDT , gan gynnwys:

§  Deall terminoleg a hunaniaethau LHDT ;

§  Sylwadau gan bobl LHDT am gydberthnasoedd mewn ffyrdd sy'n ceisio sicrhau dealltwriaeth a chydraddoldeb;

§  Cydnabod a deall homoffobia, biffobia, a thrawsffobia yn yr ysgol a'u heffaith ar gymdeithas ehangach;

§  Mynd i'r afael â homoffobia, biffobia, a thrawsffobia o fewn yr ysgol a'u heffaith ar y gymdeithas yn ehangach;

§  Deall rhagfarn mewn perthynas â'r gymuned LHDT ac ymwybyddiaeth o hanes mudiadau cydraddoldeb LHDT; a

§  Dealltwriaeth o barch, preifatrwydd a chydsyniad.

Derbyniodd Llywodraeth yr Alban yr holl argymhellion. Caiff holl ysgolion y wladwriaeth eu cefnogi i ddysgu cydraddoldeb a chynhwysiant LHDT ar draws gwahanol grwpiau oedran a phynciau, wedi'u grwpio o dan themâu amrywiol.  Y nod yw cyflawni'r argymhellion hyn erbyn diwedd mis Mawrth 2021.

3.     Y sefyllfa yn Lloegr:

Yn Lloegr, o fis Medi 2020, mae Addysg Cydberthynas yn orfodol ym mhob ysgol gynradd; mae Addysg Cydberthynas a Rhyw yn orfodol ym mhob ysgol uwchradd, ac mae Addysg Iechyd yn orfodol ym mhob ysgol a ariennir gan y wladwriaeth. Oherwydd yr aflonyddwch a achoswyd gan y pandemig COVID-19, er y daeth y darpariaethau cyfreithiol i rym ar 1 Medi 2020, gall ysgolion oedi cyn cyflwyno'r gofynion newydd tan haf 2021 os nad ydyn nhw'n barod i ddechrau dysgu'r pynciau diwygiedig.

Dywed canllawiau yr Adran Addysg (Mehefin 2019) bod ysgolion yn rhydd i benderfynu sut y maent yn mynd i’r afael â chynnwys penodol LHDT, ond maent yn disgwyl:

all pupils to have been taught LGBT content at a timely point

 Ac hefyd:

At the point at which schools consider it appropriate to teach their pupils about LGBT, they should ensure that this content is fully integrated into their programmes of study for this area of the curriculum rather than delivered as a standalone unit or lesson.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.